“Catching up with Mamwlad on S4C. It’s more insightful and purposeful than much of recent history on tv “
Dwi’n dal yn gallu cofio’r wefr o ddarllen y trydariad uchod gan yr hanesydd Dr Martin Johnes o Brifysgol Abertawe.Ymateb oedd e i’r gyfres gyntaf o Mamwlad gyda Ffion Hague, cyfres hanes menywod sy’n cael ei chynhyrchu ar gyfer S4C gan gwmni Tinopolis, ac i fi, fel golygydd y gyfres, roedd hi’n ennyd i’w thrysori. Yn sicr, uchafbwynt fy rhwydweithio cymdeithasol yn 2012! Prawf ein bod ni ar y trywydd iawn gyda’r gyfres a bod holl waith caled y tîm cynhyrchu a’r cyflwynydd Ffion Hague yn cael ei werthfawrogi.
Bellach yn 2016 ry’n ni wedi cyfleu ein trydedd cyfres o Mamwlad ac fe fydd S4C yn dechrau ei darlledu ar Fawrth y 6ed, Sul y Mamau a deuddydd cyn Diwrnod Rhyngwladol Menywod. Ac ydy – ar waethaf toriadau cyllidol i ddarlledu Cymraeg a ffilmio yn ystod haf erchyll o wlyb 2015 – mae’r angerdd a’r brwdfrydedd cychwynnol yn dal yno. Ry’n ni fel tîm yn dal i gredu‘n gryf fod angen rhoi llwyfan teilwng i gyfraniad gwerthfawr menywod i hanes Cymru. Mae archif teledu Cymreig yn gyforiog o dystiolaeth am orchestion dynion yn hanes ein gwlad ond os ewch i chwilio am raglenni am y menywod hynny a wnaeth gyfraniad hanesyddol – prin yw’r deunydd. Ond fel ry’n ni wedi profi, drwy waith ymchwil trwyadl a chyfraniadau gan arbenigwyr ledled y wlad, mae’r straeon am ferched Cymreig a adawodd eu marc ar ein gwlad a thu hwnt yn wythien gyfoethog o hanes pwysig a difyr.
Hyd yn hyn mae Mamwlad (gan gynnwys y gyfres ddiweddara) wedi cloriannu bywyd a gyrfa 19 o fenywod ac, yn driw i egwyddorion sylfaenol y gyfres, mae’n gasgliad amrywiol o gymeriadau, meysydd, cyfnodau ac ardaloedd. Mae ’na enwau adnabyddus fel y gwleidydd Megan Lloyd George, y llenor Kate Roberts a’r gyfansoddwraig Grace Williams ond mae bywydau menywod eraill wedi cael eu dathlu go iawn am y tro cyntaf ar raglen deledu – rhai fel Amy Dillwyn, y fenyw fusnes o Abertawe; Frances Hoggan o Aberhonddu, y fenyw gyntaf ym Mhrydain i raddio’n feddyg a Cranogwen, golygydd “Y Frythones“a oedd hefyd yn gapten llong, yn bregethwraig ac yn ymgyrchydd dros ddirwest.
Wrth edrych yn ôl ar destunau’r tair cyfres, mae menywod Mamwlad yn rhannu sawl nodwedd. Mae sawl un wedi dod i’r brig mewn mwy nag un maes; mae ‘na brofiadau personol cymhleth yma yn ymwneud er enghraifft â moeseg, rhywioldeb, iselder ysbryd; ac mae ambell un ohonyn nhw jest yn gwbwl ecsentrig! Ond yr hyn sy’n eu clymu i gyd, ac sydd yn ennyn fy edmygedd parhaus yw eu dycnwch a’u dyfal-barhad wrth frwydro yn erbyn ffactorau eu hoes,i wrthod cydymffurfio â’r drefn arferol ac yn syml,i fynd amdani.
Mae gen i ferch bedair ar ddeg oed sy’ ar fin dechrau ar bennod addysgol newydd gyda dewisiadau cwrs TGAU. Mae pob math o bynciau yn agored iddi a chefnogaeth yn yr ysgol a gartref. Ond mae’n syndod o hyd pa mor rymus yw dylanwadau allanol a hunan-ddelwedd a’r rheiny’n parhau i lywio merched heddiw ar hyd trywydd disgwyliedig sydd wedi’i seilio yn rhy aml ar eu rhyw. O’r unfed ganrif ar ddeg i’r ugeinfed ganrif dewis y llwybr amgen, anghonfensiynol wnaeth y menywod fu’n destunau i Mamwlad gan fynnu torri cwys newydd ac arloesi. Mae stori Cymru yn gyfoethocach oherwydd eu hymdrechion a mae nhw’n ysbrydoliaeth i ni yn yr unfed ganrif ar hugain. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd fy merch (a phawb arall) yn gwylio’r gyfres newydd o Mamwlad gyda Ffion Hague. Mae ‘na wersi pwysig am hanes ein gwlad, am hualau cymdeithas, am emosiynau ac am y wefr o wireddu breuddwyd. Ond i fi, y neges bwysicaf iddi hi a’i chyfoedion yw fod popeth yn bosib.
Mamwlad gyda Ffion Hague, S4C, 7.30pm, nos Sul Mawrth 6ed-Ebrill 10fed ac ar alw ( iplayer)