Wel dyma ni, fy nghynnig cyntaf ar ysgrifennu blog. Hyd yma, dwi wedi gwneud fy ngorau glas i osgoi pethau o’r fath! Fel arfer ysgrifennu gwyddonol, gwrthrychol sy’n seiliedig ar ddadansoddi a dehongli data yw fy myd. Ond rwyn ysgrifennu’r blog yma i gydfynd â lansiad a chychwyn cyfres newydd ar S4C, Her yr Hinsawdd – cyfres y bydda i yn ei chyflwyno. Mae’r profiad wedi bod yn newid byd i fi.
Athro Prifysgol ydw i ac ymchwil ar newid hinsawdd sy’n mynd â fy mryd i. Rwy’n gweithio yn bennaf mewn labordy, gyda meicrosgôp wrth law, ond yn aml yn cael cyfle i gasglu samplau iâ a mwd ar dripiau gwaith maes mewn lleoliadau anghysbell; y cyfan er mwyn casglu tystiolaeth ar natur a sbardun newidiadau naturiol y gorffennol. Ond dros y misoedd diwethaf dwi ‘di bod ar daith newid hinsawdd tra wahanol – taith i glywed am stori’r bobl sydd eisoes yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd heddiw. Dwi ‘di cyflwyno i amryw o gynulleidfaoedd i esbonio’r dystiolaeth wyddonol sy’n dangos bod newid hinsawdd yn digwydd, ond erioed wedi cael y cyfle i gyfarfod â’r bobl sy’n gorfod ymateb heddiw i fygythiadau difrifol newid hinsawdd.
Yr Ynys Las yw cychwyn y daith, lle mae’r llen iâ yn toddi ar raddfa frawychus o gyflym. Dim ond 56,000 o bobl sy’n byw yn y wlad hon a hynny ar hyd ymlyon yr iâ. Siaradais â nifer o ffermwyr oedd yn gweld hi’n anodd i dyfu digon o wair i’w defaid oherwydd prinder glaw, a nifer yn newid i dyfu llysiau. Ond mae’r iâ yn crebachu yn golygu bod yna bosibiliadau newydd o ran mwyngloddio a masnachu a nifer yn edrych yn obeithiol i’r dyfodol. Er hynny, mae rhai yn sylweddoli bod y symptomau yn cychwyn yn yr Ynys Las a bod yr iâ yn toddi yn beryg i weddill y byd. Ac wrth i lefel y môr godi, mae ynysoedd isel y Maldives, miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn debygol o ddiflannu o dan y don. Dyma i chi ynysoedd a chymunedau sydd wir mewn perygl. Er bod yna weithredu ar lefel llywodraethol, ymateb y cymunedau llai wnaeth yr argraff fwyaf arna i. Cefais fraint o aros ymysg pobl Ynys Kudafari – cymuned fechan sydd wedi dod at ei gilydd yn wirfoddol i amddiffyn a diogelu eu hynys. Y bobl ifanc yn bennaf oedd yn arwain y gwaith o blannu coed ac adeiladu basgedi cwrel; dyfodol eu plant nhw sydd yn y fantol.
Yn rhy aml mae newid hinsawdd yn boddi mewn jargon arbenigol a thechnegol ond mae’r gyfres yma yn portreadu storiau’r bobl sydd eisoes yn teimlo effeithiau difrifol newid hinsawdd. Dwi wedi cael profiadau bythgofiadwy ar y daith hon. Dwi wedi fy synnu ac wedi cael braw ond dwi hefyd wedi ‘mhlesio’n fawr gan agweddau positif ac ysbrydoledig pobl yr Ynys Las a’r Maldives. Ond wrth i wyddonwyr ragweld mai 2016 fydd y flwyddyn gynhesa i’w chofnodi, dwi’n poeni’n fawr am ddyfodol bregus y ddwy wlad yma. Mae’n eiriong bod y ddwy wlad, hollol wahanol yma, yn cyfrannu cyn lleied tuag at y broblem o newid hinsawdd ond mae’r effeithiau i’w teimlo yn fawr.
Yr Athro Siwan Davies gyda Haydn Denman, y person camera, ac Elin Rhys, cynhyrchydd Her yr Hinsawdd gan gwmni Telesgop, sy’n cychwyn ar S4C Gorffennaf 5ed 9:30pm.