Mae Dr Elin Jones, Llywydd Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau wedi dod o hyd i funud sbȃr i olrhain cysylltiad menywod ȃ’r Ŵyl.
Mae’n gant a thri o flynyddoedd ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r Fenni, ac roedd hynny ar adeg o derfysg ac ansicrwydd gwleidyddol – ac Eisteddfodol. Bu nifer mawr o streiciau a therfysgoedd yn ardaloedd diwydiannol Cymru yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd ymgyrch ymosodol y Swffragetiaid dros y bleidlais i fenywod yn codi ofn – a dicter – y cyhoedd hefyd ac wedi tarfu’n sylweddol ar Eisteddfod Genedlaethol 1912*. Does dim rhyfedd bod trefnwyr Eisteddfod 1913 yn y Fenni yn pryderu’n fawr am heddwch yr Eisteddfod honno!
Beth fyddai’n parchedusion Gorsedd y Beirdd 1913 wedi meddwl am Eisteddfod 2016 tybed? Mae menywod wedi hen ennill y bleidlais erbyn hyn, ac mae Archdderwydd o fenyw wedi arwain defodau’r Orsedd. Byddai hynny’n ddigon o ryfeddod i’r Archdderwydd Dyfed, gweinidog di-briod gyda’r Methodistiaid Calfinaidd – yr Archdderwydd o 1905 tan 1923.
A beth am Lloyd George, a ymfalchïai yn y cyfle a gai i lywyddu yn yr Eisteddfod, bob blwyddyn – ac a fu’n darged gan y Swffragetiaid oherwydd ei amharodrwydd i wireddu ei addewidion i gefnogi eu hachos? Efallai y byddai’n fwy parod i weld menyw’n annerch o’r llwyfan – fe ddigwyddai hynny o bryd i’w gilydd, hyd yn oed yn yr oes honno, ac roedd nawdd Arglwyddes Llanofer, Gwenynen Gwent, i’r Eisteddfod ac i bob agwedd ar Gymreictod yn fyw yng nghof ei genhedlaeth ef.
Ond byddai pawb o’r oes honno’n synnu a rhyfeddu i weld sut y mae’r ‘rhyw deg’ (i ddyfynnu ymadrodd poblogaidd iawn ym 1913) yn gwisgo ac yn ymddwyn ar faes yr Eisteddfod. Byddai unrhywun yn meddwl eu bod yn ystyried eu hun yn gyfartal â dynion!
A beth am y lluniau oedd yn y wasg yr wythnos ddiwethaf? Prif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog yr Almaen yn eistedd yn gyfeillgar gyda’i gilydd, ac yn cwrdd i drafod dyfodol eu gwledydd yn heddychlon. Dwy fenyw’n llywio llywodraeth, a hynny trwy drafodaeth! Ym 1913, cofiwch, roedd Prydain a’r Almaen yn paratoi am ryfel, a hynny am resymau digon gwan o safbwynt 2016.
Ydy, mae’r byd – a statws menywod – wedi newid yn fawr yn ystod y ganrif ddiwethaf, am 11.30am ar Awst 5ed, fe fydd darlith flynyddol Archif Menywod Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 2 yn datgelu mwy am y Swffragetiaid a’r Eisteddfod, ac yn olrhain hanes un fenyw adnabyddus iawn yn ei dydd, ond sydd wedi llithro i gysgodion hanes. Serch hynny, dyma fenyw a heriodd bob ystrydeb a rhagfarn yn erbyn menwyod a gymerai ran mewn bywyd cyhoeddus, ac a baratodd y ffordd i fenywod gamu ymlaen tuag at gydraddoldeb.
*Mae hanes y Swffragetiaid yn Eisteddfod 1912 yn cael ei ail-fyw ar wefan Casgliad y Werin Cymru ac yn werth ei ddarllen.