[:cy]2016 – blwyddyn y merched?[:]

[:cy]

Mared Ifan, gohebydd y Cynulliad Golwg sy’n edrych ar wleidyddion benywaidd ar drothwy Etholiad yr UD…

mared-ifan

Gyda Brexit, Trump a llanast llwyr y Blaid Lafur, mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ryfedd, gyffrous a heriol, yn enwedig i sawl un yn y ‘sefydliad’.

Gallwch ddadlau hefyd mai blwyddyn i’r merched oedd hi, gyda dynes ar drothwy, o bosib, i gael ei hethol i’r Tŷ Gwyn a dynes arall – eto, o bosib, wedi newid cwrs proses gadael Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Beth fydd effaith cael Hillary Clinton yn Arlywydd ar yr Unol Daleithiau?

A fydd hi’n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i ferched ledled y byd sy’n byw mewn tlodi ac sydd heb fynediad at addysg?

Er gwaetha’r ffaith fod dynes yn agos iawn at falu’r glass ceiling uchaf yn y byd rydyn ni’n dal i fyw mewn cymdeithas sy’n llawn rhwystrau i ferched heddiw.

Mae 1 o bob 5 merch yn America wedi cael ei hymosod arni’n rhywiol yn ystod ei hamser yn y coleg, ac mae bron i chwarter o fenywod y wlad – 22% wedi profi trais corfforol difrifol gan bartner ar ryw adeg yn 
eu bywydau.

Bydd cael Hillary Clinton yn y Tŷ Gwyn yn rhoi llygedyn o obaith i bawb sydd am weld misogyny yn ein cymdeithas yn dod i ben, ond a fydd ei thynged fel Arlywydd fel un Barack Obama? Mae gobaith llawer o’i ddilynwyr e wedi pylu wrth i’r bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog gynyddu a therfysgoedd ar y strydoedd yn parhau gyda phob dyn du sy’n cael ei ladd dan law’r heddlu.

Dynes a arweiniodd y frwydr gyfreithiol i sicrhau mai Aelodau Seneddol sy’n cael y gair olaf dros Brexit yw Gina Miller. Mae ei dylanwad hi ar wleidyddiaeth ym Mhrydain yn anferth – o achos yr her  gyfreithiol, mae’n bosib na fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o gwbl.

Mae Gina Miller wedi bod yn destun ymosodiadau ar-lein, gan ddweud ar raglen Andrew Marr bore Sul,  bod pobol wedi bygwth i’w threisio ac wedi dweud y dylai ‘fynd yn ôl i’rgegin’.

Ac yn ôl yn America, mae crysau-t a bathodynnau’n cael eu gwerthu ac wyneb Monica Lewinsky, gyda sloganau ‘I Got The ‘Job’ Done When Hillary Couldn’t’.

Yn ôl erthygl yng nghylchgrawn TIME, y nwyddau gwrth- Hillary sy’n gwerthu, nid y nwyddau gwrth-Trump.

Er gwaetha’ dylanwad pwysig merched yn y byd gwleidyddol heddiw, mae’r don o gasineb sydd yn eu herbyn – ar gyfryngau cymdeithasol, ar y strydoedd ac yn y cyfryngau proffesiynol, yn dangos bod angen mwy nag Arlywydd benywaidd yn unig i wneud gwahaniaeth.

 [:]

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *